Ffoniwch ni i drefnu
Ffoniwch Ni
029 2082 9970
Find us
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd
Ffordd Watkiss
Bae Caerdydd
CF11 0SY


Dydd Mercher 28 Medi 2016

Os ydych chi wedi bod ag awydd rafftio ar ddŵr gwyn erioed, dringo hyd lefel pendro neu ddysgu syrffio yna hwn yw’r cyfle perffaith i weld os yw’r hyn sydd ei angen gennych. Camwch allan o’ch man cyfforddus yng Nghanolfan Ryngwladwol Dŵr Gwyn Caerdydd ar 28 Medi Helpwch i godi arian i bobl ifanc dan anfantais neu sy’n agored i niwed i gwblhau eu gwobr Dug Caeredin nhw.
 
Cymerwch ran:
• Creu eich tîm (lleiafswm o chwech aelod y tîm).
• Rhaid i bob aelod tîm gofrestru ar gyfer Her Ddiemwnt Dug Caeredin yn DofEDiamondChallenge.org (£20 yw’r cofrestru y pen gan gynnwys Pecyn Her a chrys-t).
• Dewiswch un neu ddau o’r gweithgareddau canlynol (cyfraddau ffafriol ond ar gael ar ddydd Mercher 28 Medi ar gyfer digwyddiad Her Ddiemwnt DofE):
Rafftio dŵr gwyn: £30 y person (6 mewn rafft)
Flow Rider: £15 y person
Gweithgareddau Dŵr Llonydd (caiacio, canŵio, padlfwrdd): £4 y person
Llwybr Awyr: £5 y pen

Cysylltwch â DGRhC Archebu Grŵp i archebu a thalu am eich gweithgareddau Her Ddiemwnt ar gyfer eich tîm (02920 829970 neu info@ciww.com) Anfonebu ar gael.

Ar y diwrnod:

10.00-11.30 – Gweithgaredd 1
11.45-13.15 – Gweithgaredd 2
13.30 – CINIO – rhag archebwch eich cinio yng nghaffi’r DGRhC
14.15 – ymweliadau a chyflwyniadau VIP 

Caiff gwobrwyon eu rhoi i’r timau sydd wedi codi’r mwyaf o arian erbyn 28 Medi Caiff Pinau Her Ddiemwnt eu rhoi i’r holl Herwyr sy’n cwblhau eu dewis o weithgaredd ac sydd wedi codi £60 erbyn 28 Medi.

Am fwy o wybodaeth: wales@DofE.org neu ffoniwch 01874 623086.