Wrth i Gwningen y Pasg lechu dan yr wyneb yn barod i’n boddi ni mewn digon o siocled i bara tan y Nadolig – beth am ddechrau cynllunio nawr i wneud y gorau o’r gweithgareddau gwyliau sydd ar gael yng Nghanolfan Dŵr Gwyn Ryngwladol Caerdydd (DGRhC) y Pasg hwn?
Peidiwch â gadael i’r plant eistedd y tu mewn yn stwffio siocled! Ysgogwch nhw i fynd allan a bod yn actif. Byddan nhw’n teimlo cymaint gwell o wneud hynny, a bydd hynny’n rhoi boddhad i chi a’u hatal nhw rhag bod o dan draed. Cymerwch olwg ar yr hyn sy’n digwydd y Pasg hwn - fydd dim wy siocled ar gyfyl y lle!
£25 y pen
Mae’r ffefryn teuluol yma yn rheidrwydd wrth i’r tywydd wella. Mae’r gweithgaredd bob tywydd cyfeillgar hwn yn berffaith fel anrheg arbennig – felly os oes ennyd i’w sbario gennych, cydiwch yn eich partner a’r plant ac ewch ar daith ar ddyfroedd gwyllt. Rydym yn gostwng uchder y dŵr i wneud yr antur dŵr gwyn hon yn addas i rai mor ifanc â 6 oed.
Dim ond £10 y pen
Mae chwaraeon padlo fel Canŵio, Caiacio a Phadlfyrddio wedi cael eu mwynhau ers degawdau, ond maent wedi profi twf diweddar yn eu poblogrwydd. Os yw eich plant yn hoff o ddilyn y ffasiwn ddiweddaraf a bod yn destun edmygedd ar iard yr ysgol, sicrhewch eu bod yn cael cyfle yn un o’n sesiynau profi padlo. Maent yn fargen am £10 y pen ac yn ffordd wych o roi cynnig ar weithgaredd newydd heb orfod ymrwymo i gwrs.
Dydd Llun 10 – Dydd Gwener 14 Ebrill, 10.30am-3.30pm
Dydd Llun 17 – Dydd Gwener 21 Ebrill, 10.30am-3.30pm
£190 y pen
Mae’r Wythnosau Gweithgaredd yn eu holau! Os oes yn rhaid i chi weithio trwy gydol y gwyliau, gadewch i’r plantos greu eu hwyl eu hunain a chyfeillion newydd yn DGRhC drwy gadw lle iddynt ar un o’n cyrsiau 5-diwrnod, sydd werth bob ceiniog. Yn llawn dop o weithgareddau, diflastod fydd y peth olaf ar feddyliau eich plant a byddant wedi blino’n siwps erbyn diwedd yr wythnos.
Dydd Llun 17 – Dydd Gwener 21 Ebrill, 10.30am-3.30pm
£150 y pen
Addas ar gyfer oedrannau 8-16, mae ein hysgol badlo yn ffordd dda i ddechreuwyr ddysgu sut mae defnyddio’r badl i lywio, troi a llywio’n osgeiddig, a falle dysgu ambell i dric hefyd.
Dim ond £10 y pen – dim angen archebu rhag blaen
Os nad yw eich plant yn rhy hoff o’r dŵr, beth am eu gollwng yn rhydd ar ein cwrs Antur Awyr, neu logi beiciau a chrwydro Llwybr y Bae. Gan nad oes angen archebu rhag blaen mae’r ddau weithgaredd yma yn berffaith i’w cadw yn eich poced cefn os bydd eich cynlluniau yn newid, neu os byddwch angen gweithgaredd ar fyr rybudd.
Dydd Sul 30 Ebrill, 9am-9pm
Profwch y byd chwaraeon dŵr ac antur awyr agored! Gwych i ddechreuwyr a rhai profiadol, mae'r Ŵyl Badlo yn gyfle perffaith i roi cynnig ar amrywiaeth o sesiynau blasu neu wella eich sgiliau dŵr gwyn. Neu gallwch ymlacio, gwrando ar y gerddoriaeth fyw a chael tamaid o’r barbeciw a mwynhau'r awyrgylch – a mwynhau diwrnod hwyliog allan gyda’r teulu!
Mae mynediad am ddim ac mae’r gweithgareddau yn dechrau am gyn lleied â £10.