Ffoniwch ni i drefnu
Ffoniwch Ni
029 2082 9970
Find us
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd
Ffordd Watkiss
Bae Caerdydd
CF11 0SY

Fel cyfleuster dŵr gwyn cyffrous , sydd wedi’i leoli’n agos iawn at ganol y ddinas, mae Canolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd (CDGRC) yn adnabyddus am ddiwallu anghenion pobl sy’n byw bywyd i’r eithaf. Fodd bynnag, mae’r safle, sy’n cynnig cyfleusterau rafftio dŵr gwyn, syrffio dan do, antur awyr a llawer mwy, yn berffaith ar gyfer cynnal cyfarfodydd busnes, gweithgareddau meithrin tîm a digwyddiadau.

Yn ddiweddar, bu i'r ganolfan gynnal brecwast rhyngweithio gyda'r syrffiwr tonnau mawr enwog, Andrew Cotton, fel gŵr gwadd. Efallai bod y byd busnes yn anrhagweladwy ac yn heriol ar adegau, ond yn sicr, mae anturiaethau beiddgar Cotton yn brwydro yn erbyn elfennau natur yn fodd i’n helpu i weld pethau yn eu gwir oleuni. Mae ei lwyddiant dangos pwysigrwydd bod yn uchelgeisiol, paratoi yn dda a sefydlu tîm cryf a chefnogol.

Ar ôl sgwrs a sesiwn ateb cwestiynau ysgogol gyda Cotton, cafodd y cynrychiolwyr gyfle i roi’r hyn yr oeddent wedi’i ddysgu ar waith mewn gweithgaredd. Dyma un o lawer o fanteision o ddefnyddio’r ganolfan fel man cyfarfod – beth am ysgogi’r criw drwy roi cyfle iddynt fynd i’r afael â her hwyliog a chyffrous y dŵr gwyn? Mae rafftio, sef gweithgaredd mwyaf poblogaidd CDGRC, yn gofyn am sgiliau cyfathrebu a chydweithio ardderchog wrth i chwech o bobl frwydro’n erbyn y dŵr gwyn ar un rafft.

Yn ogystal â chynnal cyfarfodydd, gellid defnyddio’r lleoliad ar gyfer llawer o fathau o ddigwyddiadau gwahanol ac mae modd llogi’r adeilad yn ei gyfanrwydd (gan gynnwys y dŵr!). Mae achlysuron nodweddiadol yn cynnwys diwrnodau corfforaethol; hyfforddiant achub i sefydliadau gwasanaethau brys rhyngwladol; ffilmio; a digwyddiadau cyhoeddus megis y PaddleFest flynyddol, sy’n cynnig adloniant ar ffurf cerddoriaeth fyw, bar a BBQ. Cafodd y ganolfan ei llogi gan y cwmni Jeep ar gyfer arddangosiad cysylltiadau cyhoeddus, oedd yn cynnwys Aimee Fuller, yr eirafwrddiwr Olympaidd, yn gyrru cerbyd Renegade ar hyd y cwrs dŵr gwyn.

P’un ai a ydych yn trefnu diwrnod anturus y tu allan i’r swyddfa, gwobr i ysgogi ac annog staff neu’n dathlu pen-blwydd cwmni, bydd CDGRC yn teilwra digwyddiad i’ch siwtio chi. Fel mae Cotton wedi profi, mae taclo heriau newydd yn talu ar ei ganfed, waeth pa mor uchelgeisiol ydynt.