Ffoniwch ni i drefnu
Ffoniwch Ni
029 2082 9970
Find us
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd
Ffordd Watkiss
Bae Caerdydd
CF11 0SY

Mae’r her o ddod o hyd i anrheg Nadolig unigryw yn dod yn anos bob blwyddyn. Gan fod bywydau pawb bellach yn llawn eiddo a phethau, rydym yn anghofio am y rhan fwyaf o anrhegion pan ddaw Gŵyl San Steffan. Y Nadolig hwn, beth am roi profiad iddynt a fydd yn aros gyda nhw am oes?

O ystyried yr ystod o weithgareddau sydd ar gael, gadewch i DGRhC eich tywys trwy eu 5 profiad anrheg gorau i’r aelodau teulu a ffrindiau hynny sydd â phopeth yn barod. Dros yr wŷl hon, peidiwch â rhoi hosanau, rhowch anrheg antur...

1.     Dysgu sut i fyrddio corff

Byddant yn ennill y sgiliau i reidio ton artiffisial ar y peiriant FlowRider® gwych. Y Ton Dan Do yw’r anrheg perffaith i blant 6+ oed (taldra o leiaf 107cm) sydd am ddysgu rhywbeth newydd, ond yn fwy na dim gallant gael hwyl naill ai drwy reidio ar eu pennau eu hunain neu ochr yn ochr â rhywun arall!

2.     Rafftio i'r Teulu

Anrheg ardderchog i’r holl deulu; galwch ar y plant, modrybedd, ewythredd, cefndryd, rhieni a thad-cuod a mam-guod a dod i’r dyfroedd gwyllt ynghyd. Cânt amser gorau eu bywydau wrth iddynt lywio’r dyfroedd gwyllt yn ystod eu sesiwn Rafftio i’r Teulu. Gostyngir lefelau’r dŵr fel y mae’n briodol i bob oedran a gallu, gan alluogi pawb i gael llawer o hwyl gyda’r teulu.

3.     Antur Awyr

Os ydynt yn mwynhau siglo, yna rhowch i’r mwncïod bach rywbeth a fydd yn herio eu hoffter am uchderau, ac ennyn parch o’u hamgylchiadau ynddynt. Yn hongian yn uchel uwchben cwrs DGRhC y mae’r Antur Awyr, sy’n cynnwys rhwystrau megis y Pont Burma, Cropian mewn Casgen, y Weiren Wib a mwy. Mae’n addas i blant sy’n dalach na 107cm, os yng nghwmni oedolyn; gall plant sy’n dalach na 132cm ei wneud ar eu pennau eu hunain.

4.     Rafftio Dŵr Gwyn

Mae rafftio dŵr gwyn yn hynod o boblogaidd a byddai’n anrheg gwych i’r bobl actif yn eich bywyd. Rhowch antur iddynt na fyddant yn ei anghofio wrth iddynt ymgymryd â throeon unig gwrs dŵr gwyn Caerdydd. Mae lle i chwe pherson ym mhob rafft, felly beth am drio llenwi cwch cyfan?

5.     Rhoi Cynnig ar Bopeth

Mae llawer o weithgareddau yn DGRhC, beth am adael iddyn nhw ddewis? Prynwch daleb anrheg ariannol am unrhyw swm yr hoffech, yna gadewch iddynt ddewis eu hantur eu hunain.

Felly, pam aros? Rhowch brofiad anrheg y Nadolig hwn a gwylio’r cyffro’n cynyddu o’r foment y caiff y daleb ei hagor. Nid yw gwneud cofion erioed wedi bod mor hawdd. Prynwch eich taleb brofiad anrheg ar-lein heddiw.