Mae’n wych cyhoeddi lansiad ein gwefan achub broffesiynol benodedig newydd – sydd bellach ar wahân i wefan hamdden DGRhC.
I’r rhai ohonoch nad ydych yn gyfarwydd â’n hyfforddiant achub, dyma gyflwyniad i’r math o gyrsiau hyfforddi proffesiynol sydd gennym yn DGRhC.
Mae Canolfan Dŵr Gwyn Ryngwladol Caerdydd (DGRhC) yn gweithredu safle dŵr gwyn artiffisial o’r radd flaenaf. Mae hyn yn golygu y gallwn bwmpio ein dŵr 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, ar lefel sy’n addas i unrhyw ofynion hyfforddiant. Gyda’n llifoleuadau, gallwn droi nos yn ddydd, neu os oes yn well gennych gallwn eu diffodd i ychwanegu elfen nos i’ch hyfforddiant achub.
Rydym hefyd yn gosod cerbydau ar y cwrs dŵr gwyn gydag efelychwyr maglu a rhwymo traed i wneud i hyfforddiant achub yn y dŵr deimlo'n wir, gan sicrhau bod y profiadau hyn yn digwydd mewn amgylchedd diogel wedi'i reoli.
Achub o gerbyd mewn dŵr - DGRhC
Llogi Cwrs Dŵr Gwyn
Mae’r cwrs ar gael i’w logi i unrhyw grŵp cymwys o bobl i hyfforddi ar y dŵr. Mae caffi ar y safle, cysylltiadau trafnidiaeth rhagorol ac, fel y byddech yn ei ddisgwyl gan gyfleuster o’r radd flaenaf, gawodydd ac ystafelloedd newid. Gallwch logi cerbyd i’w ddefnyddio ar y dŵr, ac mae gennym offer newydd ar gael yn rheolaidd gan wneuthurwyr amlwg i roi cynnig arno.
Darparwr Hyfforddiant Ewrop Rescue 3 Achrededig
Mae DGRhC yn Ddarparwr Hyfforddiant Ewrop Rescue 3 Achrededig penodedig yn Ne Cymru. Gallwn arlwyo ar gyfer unrhyw gwrs achub yn y dŵr neu ddiogelwch dŵr, o unrhyw faint, naill ai yn ein canolfan bwrpasol £16m ar afonydd lleol De Cymru. Neu, am y gorau o ddau fyd, beth am i ni gyfuno'r ddau!
Cyrsiau achub yn y dŵr a diogelwch dŵr
Rydym yn cynnal ystod o gyrsiau achub a diogelwch dŵr, o ymwybyddiaeth dŵr i lefelau Hyfforddwr TADC. Ffordd boblogaidd o ail-ddilysu eich cymhwyster TADC cyfredol yw drwy wneud cwrs deuddydd Achub o Gerbydau yn y Dŵr. Gall eich cwrs cael ei ardystio drwy Rescue 3. Edrychwch ar eu cyrsiau ac yna cysylltwch â ni i gadw'ch lleoedd.
Pecynnau hyfforddiant diogelwch dŵr pwrpasol
Gallwn hefyd gynnig pecynnau hyfforddiant pwrpasol at eich anghenion unigol chi.
I gadw lle ar gwrs diogelwch dŵr ac achub dwr DGRhC
Cysylltwch â ni ar 029 2082 9970 neu e-bostio rescue@ciww.com.
Dros y misoedd nesaf, byddwn yn eich cyflwyno i’n hyfforddwyr, bwrw golwg fanylach ar rai o’r cyrsiau proffesiynol yn DGRhC ac edrych ar yr agweddau technegol ar achub yn y dŵr. Felly cadwch lygad ar y blog!