Mae’r cwrs un diwrnod hwn ar gyfer pawb sy’n gweithio mewn gofod cyfyngedig ac mae’n cydymffurfio â Dyfarniad Lefel 2 City and guilds mewn Gweithio mewn Gofodau Cyfyngedig Risg Isel (6150-01 – Dŵr a 6150-51 – Nid yn y dŵr).
Caiff pobl ar y cwrs wybodaeth am beryglon penodol mewn gofodau cyfyngedig. Bydd y cwrs hwn yn cyflwyno’r arferion gwaith a gweithdrefnau diogelwch gorau yn yr amgylchiadau hyn.
Ar gyfer gweithwyr sy’n gweithio mewn amgylchedd risg isel ‘mynediad’ gyda gwyntyllu awyr naturiol neu fecanyddol digonol. Mae’r ffordd i mewn ac allan yn ddirwystr ac yn syml, a does dim risg debygol o lifogydd (er enghraifft siambrau falf neu byllau mesurydd).
Bydd yr asesu’n cynnwys asesu ymarferol parhaus a phapur ysgrifenedig amlddewis.
Mae modd gwneud cwrs deuddydd hefyd ar gyfer pobl sydd angen defnyddio cyfarpar anadlu symudol.
Mae’r dystysgrif yn para 3 blynedd.
Mae DGRhC hefyd yn cynnig cyrsiau adnewyddu tystysgrif.