Mae achub o gerbydau yn y dwr yn berygl cynyddol y mae gwasanaethau Tân ac Achub yn eu hwynebu.
Mae Achub o Gerbydau yn y Dŵr yn gwrs arbenigol ar gyfer Technegwyr Dŵr Cyflym ac Achub o Lifogydd sy'n taflu goleuni ar y sgiliau sydd eu hangen i achub pobl o gerbydau yn y dŵr. Dan sylw ynddo mae'r ffordd y mae cerbydau’n ymddwyn ac yn sefydlogi yn y dŵr, a thechnegau i agor cerbyd a rhyddhau rhywun sydd wedi cael anaf.
Mae mynd ar y cwrs hwn yn ffordd arall o adnewyddu Cymhwyster Technegydd Achub Dŵr Cyflym sydd gennych chi eisoes.
(Mae'n bosibl y caiff cymwysterau Lefel 3 DEFRA eraill eu hystyried yn ôl yr achos dan sylw)