Ffoniwch ni i drefnu
Ffoniwch Ni
029 2082 9970
Find us
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd
Ffordd Watkiss
Bae Caerdydd
CF11 0SY

Achub o Gerbydau yn y Dŵr Rescue 3

Mae achub o gerbydau yn y dwr yn berygl cynyddol y mae gwasanaethau Tân ac Achub yn eu hwynebu.

Mae Achub o Gerbydau yn y Dŵr yn gwrs arbenigol ar gyfer Technegwyr Dŵr Cyflym ac Achub o Lifogydd sy'n taflu goleuni ar y sgiliau sydd eu hangen i achub pobl o gerbydau yn y dŵr. Dan sylw ynddo mae'r ffordd y mae cerbydau’n ymddwyn ac yn sefydlogi yn y dŵr, a thechnegau i agor cerbyd a rhyddhau rhywun sydd wedi cael anaf. 

Mae mynd ar y cwrs hwn yn ffordd arall o adnewyddu Cymhwyster Technegydd Achub Dŵr Cyflym sydd gennych chi eisoes.


Beth sydd ei angen i wneud y cwrs

  • Technegydd Achub Dwr Cyflym Rescue 3

(Mae'n bosibl y caiff cymwysterau Lefel 3 DEFRA eraill eu hystyried yn ôl yr achos dan sylw)

 

Dyma gynnwys y cwrs

  • Ymddygiad cerbyd yn y dŵr
  • Rheoli gwydr
  • Ystyriaethau meddygol
  • Asesu’r sefyllfa diogelwch yr achubwr
  • Angorau (cerbyd a banc) a sefydlogi cerbyd
  • Rhyddhau rhywun sydd wedi cael anaf
  • Rhaff dynn
  • Nofio â rhaff
  • Banc sengl, systemau dau a phedwar pwynt

Addas ar gyfer

  • Yr Heddlu
  • Tân ac Achub
  • Asiantaethau Achub Gwirfoddol ac Achub Mynydd
  • RNLI
  • Asiantaethau Achub o Gerbyd
Key Info
Gofynion cyn cwrs
SRT
Hyd y Cwrs
2 diwrnod ( 09:00 - 17:00)
Pris
£450 y pen