Ffoniwch ni i drefnu
Ffoniwch Ni
029 2082 9970
Find us
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd
Ffordd Watkiss
Bae Caerdydd
CF11 0SY

Mae cwrs Technegydd Achub Mewn Dŵr Cyflym a Llifogydd ar gyfer technegwyr Achub Dŵr Cyflym a Dŵr Gwyn Rescue 3 ar sefyllfaoedd achub mwy heriol yn y dŵr ac ar wyneb y dŵr.

Beth sydd ei angen i wneud y cwrs

Technegydd Achub Dŵr Cyflym neu Ddŵr Gwyn

 

Addas ar gyfer

  • Adnewyddu cymwysterau Technegydd Achub Dŵr Cyflym presennol
  • Bydd yn rhaid i dechnegwyr sy’n gweithio tuag at gymhwyster Hyfforddwr Technegydd Achub Dwr Cyflym wneud TADCU-Dŵr cyn y cwrs Hyfforddwr.
  • Unrhyw un sydd eisiau ehangu eu sgiliau o lefel TADC

Dyma gynnwys y cwrs 

  • Asesu risgiau coredau a chynllunio ymlaen llaw
  • Technegau nofio dŵr cyflym lefel uwch
  • Achub gwirioneddol ac amodol 
  • Gweithrediadau gyda’r nos a chyda gwelededd isel 
  • Rheolaeth chwilio mewn llifogydd a dŵr cyflym
  • Systemau mantais dechegol
  • Rhaffau ynni mawr
  • Trin cwch rhwfo

 

 



 

 

 

 

Key Info
Gofynion cyn cwrs
Technegydd Achub Dŵr Cyflym / Dŵr Gwyn
Hyd y Cwrs
3 ddiwrnod (09:00 - 17:00) gan gynnwys un gweithgaredd dros nos
Pris
£425 y pen