Ffoniwch ni i drefnu
Ffoniwch Ni
029 2082 9970
Find us
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd
Ffordd Watkiss
Bae Caerdydd
CF11 0SY

Mae cwrs Technegydd Achub Dŵr Gwyn Uwch yn dilyn y cwrs Technegydd Achub Dŵr Gwyn ac mae wedi’i ddylunio ar gyfer gweithwyr awyr agored proffesiynol sy’n gweithio mewn amgylcheddau heriol, er enghraifft dŵr gradd 4/5, teithiau heb gymorth neu mewn ceunentydd a hafnau lle y gallai fod angen cyrraedd rhywun neu ei symud mewn cyfeiriad fertigol. Fel yn achos Technegydd Achub Dŵr Gwyn, datrys sefyllfaoedd achub cyffredin sydd dan sylw’n bennaf ynghyd â defnyddio’r cyfarpar achub afonydd yn effeithiol.

Dyma gynnwys y cwrs:

  • Cynllunio camau achub a rheoli sefyllfaoedd
  • Cyfarpar achub technegol
  • Technegau achub mewn dŵr lefel uwch
  • Systemau codi a gollwng ar raff
  • Gweithrediadau a rheolaeth chwilio yn y lle cyntaf
  • Gofal am berson sydd wedi cael anaf a pharatoi rhwymynnau
  • Cludo person anafedig o adeilad ar ongl isel

 

 

 

Key Info
Gofynion cyn cwrs
Cymhwyster Technegydd Achub Dŵr Gwyn - Proffesiynol
Hyd y Cwrs
4 diwrnod
Pris
£440 y pen